Numbers 29:12-38
12“‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis dych chi i ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gynnal Gŵyl i'r Arglwydd am saith diwrnod. 13“‘Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r Arglwydd, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un deg tri tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. 14Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 15ac un cilogram ar gyfer pob oen. 16Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 17“‘Yna ar yr ail ddiwrnod: un deg dau darw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 18A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 19Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 20“‘Ar y trydydd diwrnod: un deg un tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 21A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 22Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 23“‘Ar y pedwerydd diwrnod: deg tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 24A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 25Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 26“‘Ar y pumed diwrnod: naw tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 27A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 28Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 29“‘Ar y chweched diwrnod: wyth tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 30A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 31Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 32“‘Ar y seithfed diwrnod: saith tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 33A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. 34Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. 35“‘Ar yr wythfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 36Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r Arglwydd, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un tarw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. 37A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y tarw, yr hwrdd a'r ŵyn. 38Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.
Copyright information for
CYM