‏ Numbers 25:1-5

1Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. 2Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. 3Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr Arglwydd wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, 4a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr Arglwydd ganol dydd, er mwyn i'r Arglwydd beidio bod mor wyllt gydag Israel.” 5Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.”

‏ Numbers 31:16

16“Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr Arglwydd!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.