Numbers 14:28-35
28Dywed wrthyn nhw fy mod i, yr Arglwydd, yn dweud, ‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, bydda i'n gwneud i chi beth glywais i chi'n gofyn amdano! 29Byddwch chi'n syrthio'n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ddau ddeg oed i fyny) 30yn cael mynd i'r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn. 31Ond bydd eich plant (y rhai oeddech chi'n dweud fyddai'n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau y wlad oeddech chi mor ddibris ohoni. 32Byddwch chi'n syrthio'n farw yn yr anialwch yma. 33A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw'n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o'ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch. 34Byddwch chi'n dioddef am y drwg am bedwar deg mlynedd, sef un flwyddyn am bob diwrnod buoch chi'n archwilio'r wlad. Byddwch chi'n deall beth mae'n ei olygu i'm cael i yn elyn i chi!’ 35Dw i, yr Arglwydd wedi dweud. Dw i'n mynd i wneud hyn i bob un o'r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw'n marw!”
Copyright information for
CYM