Matthew 15:34-38

34“Sawl torth o fara
15:34 torth o fara: gw. y nodyn ar 14:17.
sydd gynnoch chi?” meddai Iesu.

“Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”

35Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. 36Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl. 37Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. 38Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Copyright information for CYM