Leviticus 25:1-7
1Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho: 2“Dywed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r Arglwydd a gorffwys. 3Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd. 4Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r Arglwydd – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd. 5Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn. 6Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun – chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi. 7Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwylltion sy'n byw ar y tir.Blwyddyn y Rhyddhau Mawr
Copyright information for
CYM