‏ Judges 9:50-55

50Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro. 51Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref. A dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr. 52Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân 53dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a cracio'i benglog. 54Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.”

Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.

55Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw dyma nhw i gyd yn mynd adre.

Copyright information for CYM