Judges 8:1-21
1Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd i gwyno wrth Gideon, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e. 2Dyma Gideon yn dweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i. ▼▼8:2 fy mhobl i Hebraeg, “Abieser”.
3Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seeb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato. 4Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi'r Afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân. 5Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.” 6Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!” 7Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr Arglwydd wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.” 8Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth. 9Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!” 10Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!) 11Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd. 12Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw. 13Pan oedd y frwydr drosodd dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres. 14Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd. 15Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’” 16Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw. ▼▼8:16 a'u chwipio … iddyn nhw Hebraeg, “a chymryd drain a mieri'r anialwch, a chwipio arweinwyr Swccoth gyda nhw.”
17Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr ▼▼8:17 arweinwyr neu dynion.
y dref honno i gyd. 18Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.” A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.” 19“Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw byddwn i'n gadael i chi fyw.” 20Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf – bachgen ifanc oedd e. 21A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod. Gideon yn gwneud delw
Copyright information for
CYM