‏ Jeremiah 43:10-12

10Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti. 11Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft.

Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.
Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.
Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.

12Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed.
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.