Jeremiah 42:9-17
9Yna dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr Arglwydd, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud: 10‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi. 11Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod a'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael. a 12Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi trwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’ b 13“Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr Arglwydd eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma, 14dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a clywed sŵn y corn hwrdd ▼▼42:14 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’ 15Os dyna wnewch chi, dyma neges yr Arglwydd i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno, 16bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno. 17Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’
Copyright information for
CYM