‏ Jeremiah 11:11

11Felly, dyma dw i, yr Arglwydd, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.

‏ Jeremiah 35:17

17Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”

‏ Ezekiel 8:18

18Bydda i'n ymateb yn ffyrnig! Fydd yna ddim trugaredd! Cân nhw weiddi am drugaredd faint fynnan nhw, ond wna i ddim gwrando.”

‏ Micah 3:4

4Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr Arglwydd am help,
ond fydd e ddim yn ateb.
Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny
am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.

Yn erbyn y proffwydi

Copyright information for CYM