Jeremiah 1:13-15

13Yna'r ail waith dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” 14“Ie,” meddai'r Arglwydd wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. 15Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd:” (Yr Arglwydd sy'n dweud hyn)

“‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau
wrth giatiau Jerwsalem.
Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas,
ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’

Copyright information for CYM