‏ Isaiah 2:4

4Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd a
ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.
Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. b

‏ Joel 3:10

10Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,
a'ch crymanau tocio yn waywffyn.
3:10 Curwch … waywffyn Yn wahanol i Eseia 2:4 a Micha 4:3, yma mae offer ffermio yn cael eu troi yn arfau rhyfel. Mae Eseia a Micha yn cyfeirio at yr heddwch sydd i ddod, ond mae Joel yn sôn am gyfnod o farn.

Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
Copyright information for CYM