‏ Genesis 50:24-25

24Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn eich cymryd chi yn ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.” 25Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.”

‏ Exodus 13:19

19Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”

Copyright information for CYM