Genesis 27:27-29
27A dyma Jacob yn mynd ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud, “Ie, mae fy mab yn aroglifel y tir mae'r Arglwydd wedi ei fendithio.
28Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti,
a chnydau gwych o'r tir,
– digonedd o ŷd a grawnwin.
29Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,
a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.
Byddi'n feistr ar dy frodyr,
a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.
Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di,
ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
Genesis 27:39-40
39Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn: “Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir,a heb wlith o'r awyr.
40Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf,
ac yn gwasanaethu dy frawd.
Ond byddi di'n gwrthryfela, ▼
▼27:40 ystyr yr Hebraeg yn aneglur
ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”
Jacob yn dianc i Padan-aram
Copyright information for
CYM