‏ Genesis 15:13-14

13Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. 14Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.
Copyright information for CYM