‏ Genesis 12:1-5

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti. 2Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill. 3Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
12:3 Neu yn defnyddio dy enw di i fendithio ei gilydd

4Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.) 5Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi eu cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno
Copyright information for CYM