‏ Exodus 34:6-7

6Dyma'r Arglwydd yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr Arglwydd! Yr Arglwydd! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel! 7Mae'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”
Copyright information for CYM