Exodus 19:16-22

16Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd
19:16 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn.
17Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd. 18Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr Arglwydd wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo. 19Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.

20Daeth yr Arglwydd i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny. 21Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr Arglwydd, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw. 22Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr Arglwydd yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r Arglwydd eu taro nhw'n sydyn.”

Exodus 20:18-21

18Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd
20:18 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.” 20Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” 21Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.

Sgrôl yr Ymrwymiad

Deuteronomy 4:11-12

11“Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau yn codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus. 12Yna dyma'r Arglwydd yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim.

Deuteronomy 5:22-27

22“Dwedodd yr Arglwydd hyn i gyd wrth y bobl o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch ar y mynydd. A dyna'r cwbl wnaeth e ddweud. A dyma fe'n ysgrifennu'r geiriau ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi nhw i mi.”

Yr angen am ganolwr

(Exodus 20:18-21)

23“Yna pan glywsoch chi sŵn y llais yn dod o'r tywyllwch, a'r mynydd yn llosgi'n dân, dyma arweinwyr eich llwythau a'ch henuriaid yn dod ata i. 24Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r Arglwydd ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi ei glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw. 25Ond mae gynnon ni ofn i'r tân ofnadwy yma ein llosgi ni. Does gynnon ni ddim eisiau marw. Os byddwn ni'n dal i glywed llais yr Arglwydd ein Duw yn siarad gyda ni, byddwn ni'n siŵr o farw. 26Oes yna unrhyw un erioed wedi clywed llais y Duw byw yn siarad o ganol y tân, fel dŷn ni wedi gwneud, ac wedi byw wedyn? 27Dos di i wrando ar bopeth mae'r Arglwydd ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’

Copyright information for CYM