‏ Exodus 14:22-29

22A dyma bobl Israel yn mynd trwy ganol y môr ar dir sych, a'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.

23Yna dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau i ganol y môr – ceffylau a cherbydau rhyfel a marchogion y Pharo i gyd. 24Yn ystod yr oriau cyn iddi wawrio dyma'r Arglwydd yn edrych i lawr ar fyddin yr Aifft drwy'r golofn o dân a niwl, a dyma fe'n achosi iddyn nhw banicio. 25Gwnaeth i olwynion y cerbydau rhyfel fynd yn sownd, ac roedden nhw'n cael trafferth i symud. A dyma'r Eifftiaid yn dweud, “Dewch! Rhaid i ni ddianc! Mae'r Arglwydd yn ymladd dros bobl Israel yn ein herbyn ni'r Eifftiaid!”

Byddin y Pharo yn boddi

26A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law tuag at y môr, i'r dŵr lifo yn ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel a'u marchogion.” 27Felly dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r môr yn mynd yn ôl i'w le wrth iddi wawrio. Roedd yr Eifftiaid yn ceisio dianc, ond dyma'r Arglwydd yn eu boddi nhw yng nghanol y môr. 28Daeth y dŵr yn ôl dros yr holl gerbydau rhyfel a'r marchogion a byddin y Pharo oedd wedi mynd ar ôl pobl Israel i ganol y môr – wnaeth dim un ohonyn nhw fyw! 29Ond roedd pobl Israel wedi cerdded drwy ganol y môr ar dir sych, gyda'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.

Copyright information for CYM