Exodus 12:21-30

21Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg. 22Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop a'i dipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn. 23Bydd yr Arglwydd yn mynd trwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a taro eich teulu chi.

24“Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser. 25Pan fyddwch yn cyrraedd y wlad mae'r Arglwydd wedi addo ei rhoi i chi, byddwch yn dal i gadw'r ddefod yma. 26Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n gwneud hyn?’ 27dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r Arglwydd ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’”

A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli. 28Wedyn dyma nhw'n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrth Moses ac Aaron.

Gadael yr Aifft

29Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r Arglwydd yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni. 30A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a pobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw.
Copyright information for CYM