Exodus 12:1-13
1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft, 2“Y mis yma ▼▼12:2 Y mis yma Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
fydd mis cynta'r flwyddyn i chi. 3Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd. 4Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta. 5Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr. 6Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw. 7Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta. 8Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a'i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. 9Rhaid rhostio'r anifail cyfan, gyda'i ben, ei goesau a'i berfeddion. Peidiwch bwyta'r cig os nad ydy e wedi ei goginio'n iawn, neu dim ond wedi ei ferwi. 10Does dim ohono i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi. 11“A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda'ch sandalau ar eich traed a'ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr Arglwydd ydy e. 12Dw i'n mynd i fynd trwy wlad yr Aifft y noson honno, a taro pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i'n mynd i farnu ‛duwiau‛ yr Aifft i gyd! Fi ydy'r Arglwydd. 13Mae'r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i'n gweld y gwaed, bydda i'n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i'n taro gwlad yr Aifft. Deuteronomy 16:1-2
1“Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib ▼▼16:1 Abib Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), oedd mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. Roedd y Pasg yn cael ei ddathlu gyda'r nos ar y pedwerydd ar ddeg o Abib (gw. Exodus 12:6; Lefiticus 23:4,5).
, am mai dyna pryd wnaeth yr Arglwydd eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos. 2Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r Arglwydd eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis – un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr.
Copyright information for
CYM