Deuteronomy 18:15-16

15“Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus arno fe. 16Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai
18:16 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall am Fynydd Sinai.
, dyma chi'n gofyn i'r Arglwydd: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr Arglwydd ein Duw, neu orfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’
Copyright information for CYM