aDaniel 9:27; 12:11; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)
cDaniel 9:27; 11:31; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)
dcyfeiriad at Daniel 9:27; 11:31; 12:11
ecyfeiriad at Daniel 9:27; 11:31; 12:11

‏ Daniel 11:31

31Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio a yno.
11:31 Bydd ei fyddin … trallod yno Gwnaeth Antiochus IV ddefodau Iddewig yn anghyfreithlon (Darllen y Gyfraith, cadw'r Saboth, ymarfer enwaediad a chyflwyno aberthau). Cysegrodd y Deml o'r newydd i'r duw Zews/Iau, codi delw o'r duw hwnnw yn y deml ac (yn ôl yr hanesydd Josephus) aberthu moch iddo ar yr allor.

‏ Daniel 12:11

11O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio c yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau.

‏ Matthew 24:15

15“Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ d yn sefyll yn y cysegr sanctaidd

‏ Mark 13:14

14“Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ e wedi ei osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.