‏ 2 Samuel 2:12-23

12Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon
2:12 Gibeon Chwe milltir i'r gogledd o Jerwsalem.
.
13A dyma Joab, mab Serwia
2:13 mab Serwia Chwaer Dafydd oedd Serwia, felly roedd Joab yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17, a'r troednodyn yn 2 Samuel 17:25).
, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.
14Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno. 15Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd. 16Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.) 17Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.

18Roedd tri mab Serwia
2:18 Serwia Chwaer Dafydd – gw. 1 Cronicl 2:16
yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,
19a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.

20Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel. 21“Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi. 22Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?” 23Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.
Copyright information for CYM