‏ 2 Samuel 19:16-23

16Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm,
19:16 Bachwrîm Roedd Bachwrîm ar y ffordd rhwng Jericho a Jerwsalem, ar dir llwyth Benjamin.
ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd, gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd.
17Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin, 18ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr.

Pan groesodd Shimei fab Gera yr afon, dyma fe'n taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin, 19a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem
19:19 gw. 2 Samuel 16:5-13
. Plîs wnei di anghofio'r cwbl.
20Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.”

21Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e'n rhegi yr un mae'r Arglwydd wedi ei eneinio'n frenin!” 22Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi'n tynnu'n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i'n frenin ar Israel unwaith eto.” 23Yna dyma'r brenin yn addo ar lw i Shimei, “Fyddi di ddim yn cael dy ladd.”

Dafydd a Meffibosheth yn cymodi


Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.