2 Kings 24:14-15
14A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd. 15Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd.
Copyright information for
CYM