2 Kings 20:17-18

17‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r Arglwydd. 18‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”

2 Kings 24:10-16

10Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae
24:10 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu'r ddinas a'i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
ar Jerwsalem.
11Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. 12A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
24:12 wyth mlynedd Digwyddodd hyn i gyd yn 597 CC

13Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr Arglwydd wedi rhybuddio
24:13 rhybuddio gw. 20:16-18.
.
14A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.

15Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd. 16Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.

2 Chronicles 36:10

10Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr Arglwydd hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

Sedeceia yn frenin Jwda

(2 Brenhinoedd 24:18-20; Jeremeia 52:1-3a)

Isaiah 39:7-8

7Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.” d

8Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr Arglwydd yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”

Copyright information for CYM