1 Samuel 2:27-36
27Daeth dyn oedd yn proffwydo ▼▼2:27 dyn oedd yn proffwydo Hebraeg, “dyn Duw”
at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo. 28Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi. 29Felly, pam dych chi'n difrïo'r aberthau a'r offrymau dw i wedi rhoi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’ 30“Felly, dyma neges yr Arglwydd, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o'r fath beth!’ Dyma neges yr Arglwydd: ‘Dw i'n rhoi parch i'r rhai sy'n fy mharchu i, ac yn ddibris o'r rhai sy'n fy nghymryd i yn ysgafn. 31Gwylia di, mae'r amser yn dod pan fydda i'n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen! 32Byddi'n gweld helynt yn fy nghysegr i. Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb yn byw i fod yn hen yn dy deulu di. 33Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc. 34“‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod! 35Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth. 36Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’”
Copyright information for
CYM