1 Samuel 18:20-27

20Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd. 21Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”

22Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.” 23Pan gawson nhw air yn ei glust, ymateb Dafydd oedd, “Sut ydych chi'n meddwl mae rhywun fel fi'n mynd i allu priodi merch y brenin? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!”

24Pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd, 25dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid!
18:25 blaengrwyn … Philistiaid Doedd y Philistiaid ddim yn ymarfer y ddefod o enwaedu (sef torri'r blaengroen i ffwrdd).
Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)

26Felly dyma'r swyddogion yn mynd i ddweud hyn wrth Dafydd. A cymrodd Dafydd fod hyn yn golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr 27dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â'r blaengroen oddi ar bidyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Felly dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch.

Copyright information for CYM