1 Kings 22:26-27
26Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 27Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” 2 Chronicles 18:25-26
25Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. 26Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” Jeremiah 20:2
2A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml. Jeremiah 37:15
15Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar. Jeremiah 38:6
6Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
Copyright information for
CYM