1 Kings 16:29-34
29Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. 30Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd na neb o'i flaen. 31Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu i Baal a'i addoli e! 32Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi. 33Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r Arglwydd, Duw Israel, nac unrhyw frenin o'i flaen. 34Pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, pan oedd yn gosod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn. a 1 Kings 21:25-26
25(Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. Ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e. 26Roedd yn gwneud pethau hollol afiach wrth addoli eilunod diwerth, yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr Arglwydd wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.)
Copyright information for
CYM