‏ Zechariah 5

Gweledigaeth 6 – Sgrôl yn hedfan

1Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan!

2Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth – tua naw metr o hyd, a pedwar metr a hanner o led!”

3A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd. a

4Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr – y coed a'r cerrig.”

Gweledigaeth 7 – Y wraig yn y gasgen

5Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?” 6“Beth ydy e?” meddwn i.

“Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.” 7Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen!

8A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le.

9Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. (Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr.) Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr. 10A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?” 11A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia,
5:11 Babilon Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon. Fel gyda hanes Tŵr Babilon yn Genesis 11, mae'r hen enw Shinar (Genesis 11:2) yn arwyddo gwrthryfel yn erbyn Duw.
i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.