‏ Zechariah 13

1“Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”

Cael gwared ag eilun-dduwiau a phroffwydi ffals

2“Bryd hynny hefyd,”—meddai'r Arglwydd holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed a. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir. 3Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr Arglwydd, ond yn proffwydo celwydd!’ b A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth. c

4“Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. 5Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’ 6Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau
13:6 creithiau Roedd pobl yn torri eu hunain gyda cyllyll, fel rhan o'r ddefod, wrth addoli'r duwiau ffals (gw. 1 Brenhinoedd 18:28).
yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”

Y Bugail a'r defaid

7Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud,

“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,
y dyn sy'n agos ata i.
Taro'r bugail,
a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.
Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.
8Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd,
gan adael un rhan o dair ar ôl.
9A bydda i'n arwain y rheiny trwy dân,
i'w puro fel mae arian yn cael ei buro,
a'i profi fel mae aur yn cael ei brofi.
Byddan nhw'n galw ar fy enw i,
a bydda i'n ateb.
Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’
a byddan nhw'n dweud, ‘Yr Arglwydd ydy ein Duw ni.’”
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.