‏ Zechariah 1

Galwad i droi'n ôl at yr Arglwydd

1Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius
1:1 Roedd wythfed mis calendr Babilon yn cyfateb i wythfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Hydref i ganol Tachwedd. Dareius Hystaspes, oedd yn teyrnasu ar Ymerodraeth Persia o 522 i 486 CC Ail flwyddyn teyrnasiad Dareius oedd 520 CC
, dyma'r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido) b yn cael y neges yma gan yr Arglwydd:

2“Roedd yr Arglwydd wedi digio gyda'ch hynafiaid chi. 3Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud. 4Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl c pan oedd y proffwydi yn dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, d meddai'r Arglwydd. 5A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd! 6Ond daeth y cwbl ddywedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r Arglwydd holl-bwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”

Gweledigaeth 1 – Ceffylau

7Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat
1:7 Shebat unfed mis ar ddeg calendr Babilon, o tua canol Ionawr i ganol Chwefror. Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Chwefror 15, 519 CC yn ein calendr ni.
) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr Arglwydd. Dwedodd Sechareia:

8Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. 9Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”

10Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr Arglwydd sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.” 11A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr Arglwydd oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”

12Yna dyma angel yr Arglwydd yn gofyn, “Arglwydd holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd f bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”

13A dyma'r Arglwydd yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi. 14A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr Arglwydd holl-bwerus yn dweud,

‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion. 15Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb! 16Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, g a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud. 17Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr Arglwydd holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr Arglwydd yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”

Gweledigaeth 2 – Pedwar corn anifail

18Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail.
1:18 corn anifail Roedd corn yn symbol o nerth a grym. Yma maen nhw'n cynrychioli'r gwledydd pwerus o gwmpas Jwda. Mae ‛pedwar‛ yn awgrym eu bod i bob cyfeiriad
19Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

20Yna dyma'r Arglwydd yn dangos pedwar gof i mi. 21A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.