Song of Solomon 6
Merched Jerwsalem: 1Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched?Ble'r aeth e?
Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.
Y ferch: 2Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd –
i'w welyau o berlysiau.
Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,
a chasglu'r lilïau.
3Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;
mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
Y bumed gerdd
Y cariad: 4F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa ▼▼6:4 Tirtsa Ar ôl i Solomon farw dyma lwythau'r gogledd, dan arweiniad Jeroboam, yn gwahanu oddi wrth Jwda yn y de. Tirtsa oedd prifddinas y deyrnas ogleddol am dros hanner can mlynedd – gw. 1 Brenhinoedd 14:17; 15:21,33; 16:6,8,15,23
,ac mor hyfryd â Jerwsalem.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! ▼
▼6:4 Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! Hebraeg yn aneglur.
5Paid edrych arna i –
mae dy lygaid yn fy aflonyddu!
Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr
yn dod i lawr o fynydd Gilead.
6Mae dy ddannedd yn wyn
fel rhes o ddefaid newydd eu golchi.
Maen nhw i gyd yn berffaith ▼
▼6:6 i gyd yn berffaith Hebraeg, “Mae gan bob un ei efaill”
;does dim un ar goll.
7Tu ôl i'r fêl mae dy fochau
a'u gwrid fel pomgranadau.
8Gallwn gael chwe deg brenhines,
wyth deg o bartneriaid ▼
▼6:8 bartneriaid Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
,a merched ifanc di-rif!
9Ond mae hi'n unigryw,
fy ngholomen berffaith.
Merch arbennig ei mam;
hoff un yr un â'i cenhedlodd.
Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld
yn ei hedmygu;
Mae pob brenhines a chariad
yn canu am ei harddwch:
10“Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr?
Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn,
mor bur â phelydrau'r haul.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
11Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau,
i weld y tyfiant yn y dyffryn;
i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,
a'r pomgranadau'n blodeuo.
12Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân.
Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,
o ferch fy mhobl fonheddig. ▼
▼6:12 Ystyr yr Hebraeg yn aneglur.
13Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith!
Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.
Y ferch: Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,
fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?
Copyright information for
CYM