‏ Song of Solomon 3

1Wrth orwedd ar fy ngwely'n y nos
byddai gen i hiraeth am fy nghariad;
dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
2“Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre –
crwydro'r strydoedd a'r sgwariau
yn chwilio am fy nghariad.”
Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
3Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld
wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.
Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”
4Prin roeddwn wedi eu pasio
pan ddes i o hyd i'm cariad!
Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwng
nes mynd ag e i dŷ fy mam,
i'w hystafell wely.
5Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch
o flaen y gasél a'r ewig gwyllt:
Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol
nes mae'n barod.

Y drydedd gerdd – Y briodas

Y ferch
6Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch,
yn codi llwch fel colofnau o fwg?
Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor –
myrr a thus a phob powdr persawrus
sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.
7Edrychwch! Soffa-gludo Solomon ydy hi!
Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas –
arwyr dewr Israel.
8Mae gan bob un ei gleddyf yn barod,
ac maen nhw wedi eu hyfforddi i ryfela.
Mae cleddyf pob un ar ei glun
i'w amddiffyn rhag peryglon y nos.
9Mae gan Solomon gadair gludo
wedi ei gwneud o goed o Libanus.
10Mae ei pholion o arian
a'i ffrâm o aur;
ei sedd o ddefnydd porffor
a'r tu mewn wedi ei addurno â chariad.
11Ferched Jerwsalem, dewch allan!
Dewch ferched Seion i syllu ar Solomon
yn gwisgo'r goron gafodd gan ei fam
ar ddiwrnod ei briodas –
diwrnod hapusaf ei fywyd!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.