1Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech.2Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” ▼
▼2:2 i gasglu grawn … caniatâd i mi Adeg cynhaeaf roedd hi'n arferiad gadael peth grawn ar ôl yn y cae i bobl dlawd ei gasglu (gw. Lefiticus 19:10; 23:22).
,
b “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi. 3A dyma Ruth yn mynd i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.4A pwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”5A dyma Boas yn gofyn i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?”6“Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw. 7“Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”8A dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi. 9Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A pan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi eu llenwi.”10Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”11“Dw i wedi clywed am y cwbl wyt i wedi ei wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr di farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti. 12Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr Arglwydd, Duw Israel. Dan ei adain e rwyt wedi dod i gysgodi.”13Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Rwyt ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er mod i'n neb o'i gymharu â'r merched sy'n gweithio i ti.”14Amser bwyd, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi ei grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.15Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a peidiwch â'i dwrdio hi. 16Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.”17Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi. Wedi iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi ei gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd! 18Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi ei gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd ganddi dros ben ers amser cinio hefyd.19Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot!” A dyma Ruth yn esbonio ble roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.20“Bendith Duw arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.” c21Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”22A dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel na fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.” 23Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas. Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?