agw. Genesis 3:1-6

‏ Romans 5

Heddwch a Llawenydd bod yn iawn gyda Duw

1Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. 2Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander. 3A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati. 4Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni. 5Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni!

6Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! 7Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. 8Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!

9Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! 10Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!

11Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib.

Marwolaeth trwy Adda, bywyd trwy'r Meseia

12Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. a Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. 13Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. 14Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda trwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod. 15Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw! 16Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy'n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae'r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni'n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau. 17Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.

18Felly, canlyniad Adda'n troseddu oedd condemnio'r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i'r ddynoliaeth. 19Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A'r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.

20Pwrpas rhoi'r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw'n troseddu. Ond tra roedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm. 21Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw'n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.