‏ Romans 13

Ymostwng i'r Awdurdodau sifil

1Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw. 2Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi ei ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. 3Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol. 4Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg. 5Felly dylid bod yn atebol i'r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw'r gydwybod yn lân. 6Dyna pam dych chi'n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i'w wneud. 7Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.

Cariad, am fod y diwedd yn agos

8Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. 9Mae'r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” a 10Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn.

11Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf. 12Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni. 13Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu. 14Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.

Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.