aadlais o Exodus 10:12-15
badlais o Daniel 5:4,23 (gw. hefyd Salm 115:4-7; 135:15-17; Deuteronomium 4:28)

‏ Revelation of John 9

1Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi. 2Pan agorodd y seren y pwll i'r pydew diwaelod daeth mwg allan ohono fel mwg yn dod o ffwrnais enfawr. Dyma'r mwg ddaeth allan o'r pwll yn achosi i'r haul a'r awyr fynd yn dywyll. 3Yna dyma locustiaid yn dod allan a o'r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi ei roi iddyn nhw. 4Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed. 5Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis (Roedd y boen yn debyg i'r boen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef). 6Bydd pobl eisiau marw,

ond yn methu marw;
byddan nhw'n dyheu am gael marw,
ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw.

7Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol, 8a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew. 9Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr. 10Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis. 11Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw – Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg.

12Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod!

13Dyma'r chweched angel yn canu ei utgorn. Yna clywais lais yn dod o'r lle roedd y cyrn ar bedair cornel yr allor aur sydd o flaen Duw. 14Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.” 15Yna dyma'r pedwar angel yn cael eu gollwng yn rhydd. Roedden nhw wedi eu cadw ar gyfer yr union awr hon ar yr union ddyddiad hwn, i ladd un rhan o dair o'r ddynoliaeth. 16Dyma nhw'n arwain byddin o ddau gan miliwn o filwyr ar gefn ceffylau. Clywais y rhif! – dyna faint oedd yna.

17Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau. 18Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau. 19Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl.

20Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren – eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded! b 21Wnaethon nhw ddim troi cefn ar yr holl lofruddio, na'r ddewiniaeth, na'r anfoesoldeb rhywiol, na'r dwyn chwaith.

Copyright information for CYM