1“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis: ‘Dyma beth mae'r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy'n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn. 2Deffra! Cryfha beth sy'n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti'n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw. 3Felly cofia beth wnest ti ei glywed a'i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di'n effro, bydda i'n dod fel lleidr. a Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i'n dod. 4Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw'n cerdded gyda mi wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw'n ei haeddu. 5Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i'n dweud yn agored o flaen fy Nhad a'i angylion eu bod nhw'n perthyn i mi. 6Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
At eglwys Philadelffia
7“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi ei agor, nac agor beth mae wedi ei gloi: b8Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi. 9Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi eu caru. c Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd. 10Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd trwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf. 11Edrych! Dw i'n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di. 12Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw. 13Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
At eglwys Laodicea
14“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea: ‘Dyma beth mae'r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw. 15Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Dwyt ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i'n hoffi i ti fod y naill neu'r llall! 16Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i'n dy chwydu di allan. 17Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth d does gen i angen dim byd.” Dwyt ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth! 18Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi ei goethi trwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto! 19Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. e Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod. 20Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw. 21Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e. 22Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”
3) Type in the Greek/Hebrew word in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) View corresponding row to see Greek/Hebrew translation of the word
How do I find a word only where it relates to a topic?
2) Click on the English tab 3) Type in the topic in the search box, press Return, and wait for the table to fill itself. 4) Click on one of the words or topics listed
When you click on a word, the detailed lexicon opens with:
Meaning: how the word is used throughout the Bible
Dictionary: academic details about the word
Related words: similar in meaning or origin
Grammar: (only available for some Bibles)
Why do only some Bibles have clickable words?
'Vocabulary' Bibles link the translation to Greek & Hebrew. So far, only some Bibles have this vocabulary feature. They are shown in the Bible select screen with the letter 'V'.
What does “~20x” or “Frequency” mean?
It is the number of occurrences of a word in the Bible. Click on it to see them all in the selected Bible(s).
Why do some words have dropdown next to the frequency number?
This reveals different forms for some words and names. These details are often interesting to scholars, eg the word 'beginning' in Genesis.
Where do I find the maps?
Video guide 1st method: Click on a place name then on the Map button in the detailed lexicon.
2nd method: 1) Click the Resource icon.
2) Click on "Places in the Bible"
How do I get the word frequency for a chapter or a book?