‏ Revelation of John 15

Saith angel gyda saith pla

1Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. 2A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi eu rhoi iddyn nhw, 3ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:

“Mae popeth rwyt yn ei wneud
mor anhygoel a rhyfeddol
Arglwydd Dduw Hollalluog.
Mae beth rwyt yn ei wneud
yn gyfiawn a theg,
Frenin pob oes.
4Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,
a chanmol dy enw di, Arglwydd?
Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd.
Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod
i addoli o dy flaen di,
oherwydd mae'n amlwg
fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”

5Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd. 6Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. 7Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd. 8Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.

Copyright information for CYM