acyfeiriad at Daniel 12:7 (gw. hefyd Deuteronomium 32:40)
badlais o Exodus 20:11 (gw. hefyd Nehemeia 8:6; Salm 146:6)
cadlais o Eseciel 2:8—3:3
Revelation of John 10
Yr angel a'r sgrôl fechan
1Yna gwelais angel pwerus arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd cwmwl wedi ei lapio amdano fel mantell, ac roedd enfys uwch ei ben. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a'i goesau yn edrych fel colofnau o dân. 2Roedd ganddo sgrôl fechan agored yn ei law. Gosododd ei droed dde ar y môr a'i droed chwith ar y tir sych. 3Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran. 4Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi ei ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!” 5Yna dyma'r angel roeddwn wedi ei weld yn sefyll ar y môr a'r tir yn codi ei law dde. a 6Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. b Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi! 7Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi ei gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.” 8Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.” 9Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.” c 10Dyma fi'n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu'n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog. 11Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.”
Copyright information for
CYM