‏ Psalms 97

Duw yn teyrnasu dros bopeth

1Yr Arglwydd sy'n teyrnasu!
Gall y ddaear ddathlu,
a'r ynysoedd i gyd lawenhau!
2Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;
a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.
3Mae tân yn mynd allan o'i flaen,
ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.
4Mae ei fellt yn goleuo'r byd;
a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.
5Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr Arglwydd,
o flaen Meistr y ddaear gyfan.
6Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,
a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.
7Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –
y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.
Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.
8Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,
ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu
am dy fod ti'n barnu'n deg, O Arglwydd.
9Achos rwyt ti, Arglwydd, yn Dduw dros yr holl fyd;
rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd.
10Mae'r Arglwydd yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.
Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,
ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.
11Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,
a llawenydd ar y rhai sy'n onest.
12Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr Arglwydd,
a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.