‏ Psalms 80

Gweddi i adfer y genedl

I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar “Lilïau'r Dystiolaeth”.

1Gwrando, o fugail Israel
sy'n arwain Joseff fel praidd.
Ti sydd wedi dy orseddu uwch ben y ceriwbiaid,
disgleiria
2o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse!
Dangos dy nerth i ni, a tyrd i'n hachub!
3Adfer ni, O Dduw!
Gwena'n garedig arnon ni! a Achub ni!
4O Arglwydd Dduw holl-bwerus,
am faint mwy rwyt ti'n mynd i fod yn ddig
gyda gweddïau dy bobl?
5Ti wedi eu bwydo nhw â dagrau,
a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.
6Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn;
mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.
7O Dduw holl-bwerus, adfer ni!
Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
8Cymeraist winwydden o'r Aifft,
a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.
9Cliriaist le iddi,
er mwyn iddi fwrw gwreiddiau
a llenwi'r tir.
10Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,
a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.
11Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr
80:11 y môr sef Môr y Canoldir
,
a'i brigau at afon Ewffrates.
12Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr,
fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth?
13Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,
a'r pryfed yn bwyta ei dail.
14O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni!
Edrych i lawr o'r nefoedd
ac archwilia gyflwr dy winwydden!
15Ti dy hun wnaeth ei phlannu,
a gwneud iddi dyfu.
16Ond bellach mae hi wedi ei llosgi a'i thorri i lawr!
Mae wedi ei difetha gan dy gerydd di.
17Nertha'r dyn rwyt wedi ei ddewis;
yr un dynol rwyt wedi ei wneud yn gryf.
18Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti.
Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw.
19O Arglwydd Dduw holl-bwerus, adfer ni!
Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.