‏ Psalms 61

Gweddi am amddiffyn

I'r arweinydd cerdd: I gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1Gwranda arna i'n galw, O Dduw.
Gwranda ar fy ngweddi.
2Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd.
Pan dw i'n anobeithio,
arwain fi at graig uchel ddiogel.
3Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd;
yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.
4Gad i mi aros yn dy babell am byth,
yn saff dan gysgod dy adenydd.

 Saib
5O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i;
ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli.
6Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto!
Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,
7ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth!
Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.
8Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth,
wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.