Psalms 44
Gweddi ar i Dduw wneud rhywbeth i helpu
I'r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora.
1Dŷn ni wedi clywed, O Dduw,ac mae'n hynafiaid wedi dweud wrthon ni
beth wnest ti yn eu dyddiau nhw,
ers talwm.
2Gyda dy nerth symudaist genhedloedd,
a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle.
Gwnaethost niwed i'r bobl oedd yn byw yno,
a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd.
3Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw;
wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain.
Na! dy nerth di, dy allu di,
dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl!
Roeddet ti o'u plaid nhw.
4Ti ydy fy mrenin i, O Dduw;
yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob!
5Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd.
Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn.
6Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa;
ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi.
7Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn.
Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni.
8Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser!
Dw i am foli ei enw'n ddi-baid.
Saib
9Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni,
a'n cywilyddio ni!
Dwyt ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni.
10Ti'n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion.
Mae'n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni!
11Rwyt wedi'n rhoi fel defaid i'w lladd a'u bwyta.
Rwyt wedi'n chwalu ni drwy'r gwledydd.
12Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim,
wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw.
13Rwyt wedi'n dwrdio ni o flaen ein cymdogion.
Dŷn ni'n destun sbort i bawb o'n cwmpas.
14Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni;
pobl estron yn gwneud hwyl ar ein pennau ni.
15Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl.
Dw i'n teimlo dim byd ond cywilydd
16o flaen y gelyn dialgar
sy'n gwawdio ac yn bychanu.
17Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni,
er na wnaethon ni dy wrthod di
na thorri amodau ein hymrwymiad i ti.
18Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti,
nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di.
19Ac eto rwyt ti wedi'n sathru ni,
a'n gadael ni fel adfail lle mae'r siacaliaid yn byw.
Rwyt wedi'n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew.
20Petaen ni wedi anghofio enw Duw
ac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall,
21oni fyddai Duw wedi gweld hynny?
Mae e'n gwybod beth sy'n mynd trwy'n meddyliau ni!
22O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser,
dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.
23Symud! O Arglwydd, pam wyt ti'n cysgu?
Deffra! Paid gwrthod ni am byth!
24Pam wyt ti'n edrych i ffwrdd,
ac yn cymryd dim sylw o'r ffordd dŷn ni'n cael ein cam-drin a'n gorthrymu?
25Dŷn ni'n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch,
ac yn methu codi oddi ar lawr.
26Tyrd, helpa ni!
Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni'n rhydd.
Copyright information for
CYM