‏ Psalms 40

Cân o fawl

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Ar ôl disgwyl yn frwd i'r Arglwydd wneud rhywbeth,
dyma fe'n troi ata i;
roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.
2Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,
a'r mwd trwchus.
Rhoddodd fy nhraed ar graig,
a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
3Roedd gen i gân newydd i'w chanu –
cân o fawl i Dduw!
Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,
ac yn dod i drystio'r Arglwydd!
4Mae'r un sy'n trystio'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!
Dydy e ddim yn troi am help at bobl
sy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.
5O Arglwydd fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! –
gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.
Does neb yn gallu dy rwystro di!
Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,
ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
6Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;
Mae hynny'n gwbl amlwg i mi!
Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.
7Felly dyma fi'n dweud,
“O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau –
fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.”
Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.
9Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder!
Dw i wedi dal dim yn ôl!
Ti'n gwybod hynny, O Arglwydd.
10Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun;
ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub!
Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.
11Tyrd, Arglwydd, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.
Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
12Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.
Mae fy mhechodau wedi fy nal i.
Maen nhw wedi fy nallu!
Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!
Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
13Plîs, Arglwydd, achub fi!
O Arglwydd, brysia i'm helpu!
14Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
15Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen i
gael eu cywilyddio a'u dinistrio.
16Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!
Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,
“Mae'r Arglwydd mor fawr!”
17Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn,
ond mae gan yr Arglwydd ei fwriadau ar fy nghyfer.
Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.
O fy Nuw, paid oedi!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.