‏ Psalms 32

Cyffes a maddeuant

Salm Dafydd.  Mascîl.

1Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel
wedi ei fendithio'n fawr,
mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.
2Mae'r un dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati
i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr –
yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon.
3Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth,
roedd fy esgyrn yn troi'n frau
ac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd.
4Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd;
doedd gen i ddim egni,
fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf.

 Saib
5Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod.
Wnes i guddio dim byd.
“Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r Arglwydd” meddwn i,
ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl.

 Saib
6Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlon
yn darganfod ei fod wedi pechu,
dylai weddïo arnat ti;
rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd.
7Ti ydy'r lle saff i mi guddio!
Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion.
Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawen
am dy fod ti wedi achub.

 Saib
8Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi,
a'ch helpu chi i wybod sut i fyw.
Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.
9Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul
sy'n gwrthod bod yn ufudd,
neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno.
10Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr,
ond mae'r Arglwydd yn hollol ffyddlon
i'r rhai sy'n ei drystio fe.
11Felly chi sy'n gwneud beth sy'n iawn,
Dathlwch beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud! Gorfoleddwch!
Bloeddiwch yn llawen, bawb sy'n byw'n gywir!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.

Everyone uses cookies. We do too! Cookies are little bits of information stored on your computer which help us give you a better experience. You can find out more by reading the STEPBible cookie policy.