‏ Psalms 148

Galw ar bopeth i foli Duw

1Haleliwia!

Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd!
Molwch e o'r uchder!
2Molwch e, ei holl angylion!
Molwch e, ei holl fyddinoedd!
3Molwch e, haul a lleuad!
Molwch e, yr holl sêr!
4Molwch e, y nefoedd uchod,
a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd!
5Boed iddyn nhw foli enw'r Arglwydd,
am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
6Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,
a gosod trefn fydd byth yn newid.
7Molwch yr Arglwydd, chi sydd ar y ddaear,
a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
8Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl,
a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo.
9Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd,
y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;
10pob anifail gwyllt a dof,
ymlusgiaid ac adar.
11Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd,
yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;
12bechgyn a merched
hen ac ifanc gyda'i gilydd
13Boed iddyn nhw foli enw'r Arglwydd!
Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl;
Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!
14Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl,
ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,
sef Israel, y bobl sy'n agos ato.

Haleliwia!
Copyright information for CYM
The selected Bible will not be clickable as it does not support the Vocabulary feature. The vocabulary is available by hovering over the verse number.